Ma siwr ti’m isio hyn,
rhyw gwyno ar gân o lais hogyn,
ti’m am glywed, ond wedyn,
mae nagrau i’n llenwi llyn.
Oedd hi’n anodd iawn heno,
yn y nos efo neb i wrando,
a dod draw oedd rhaid am dro,
dod atat i’r stryd eto.
Dwi’n cofio’r adeg pan oedd na wegian
yn dy goesau yn eiliad y gusan,
cofio chdi’n fy neud i’n wan, a chofio’r
byd ar agor, a’r byw darogan...
A heno dwi ym mhen y daith
a dwisio gwbod oes gobaith
y doi di’n ôl, dim ond un waith.
Edrych, os wyt ti adra,
yn wyneb y ffenest a gwena,
ar wiriondeb jysd gwranda,
dwi’n ysu deud un nos da.